Croeso i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol


Ni yw’r corff annibynnol sy’n gyfrifol am oruchwylio rheoleiddio cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr. Ein nod yw diwygio a moderneiddio’r farchnad gwasanaethau cyfreithiol trwy osod buddiannau defnyddwyr yng nghalon y system, gan adlewyrchu amcanion y statud a’n creodd, y Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007.

Rydym yn rhannu’n hamcanion rheoleiddio gyda ‘Rheolyddion Cymeradwy’ proffesiwn y gyfraith, y mae gan bob un ohonynt gyfrifoldeb am reoleiddiad dydd i ddydd y gwahanol fathau o gyfreithwyr.

Sylwer na allwn ymyrryd mewn unrhyw gwyn neu anghydfod newydd neu barhaus sydd gennych â’ch cyfreithiwr. Dylid cyfeirio unrhyw gwynion am gyfreithwyr at Ombwdsmon y Gyfraith.